
Ali Abdi
Mae Ali yn ffigwr frwdfrydig a charismatig o fewn y gymuned Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALlE) yng Nghaerdydd, a'i frwdfrydedd yw un o'r prif resymau pam ei fod mor llwyddiannus. Mae ei ddealltwriaeth a'i wybodaeth drylwyr am y cymunedau DALlE, y rhwystrau a'r heriau, wedi bod yn allweddol i wneud gwahaniaeth mewn amryw brosiect.
Ffion Griffith
Mae Ffion Elin Griffith yn fyfyriwr blwyddyn 12 ac yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ar ran etholaeth Islwyn. Ers bu'n ifanc, mae Ffion wedi bod yn perfformio, gyda phrofiad yn canu, actio a dawnsio. Yn y gorffennol mae wedi gwirfoddoli yn ei ysgol ddawns leol ble mae bellach yn dysgu'n wythnosol.


Edward Lee
Rwy'n ysgrifennydd sgript annibynnol, cyflwynydd radio, hyrwyddwr celf ac actor sydd yn gweithio o Gaerdydd. Wedi fy melltithio gydag obsesiwn am ysgrifennu, academia ffilm a llyfrau comig, rwyf fel arfer yn crwydro strydoedd neu goedwigoedd Caerdydd, yn ceisio galw ar ryw Dduwdod hynafol.
Joe Stockley
Helo! Joe ydw i, rwy'n gweithio mewn Cyfathrebu, yn ymddiriedolwr yn CGGC a Chyngor Ieuenctid Prydain, ac mae ieuenctid, bwyd da a sicrhau bod pobl ifanc yn cael cynrychiolaeth deg yn bwysig iawn i mi. Ers nifer o flynyddoedd rwyf wedi bod yn gweithio gyda sawl sefydliad, gan gynnwys y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol, #Byddaf, a Llysgenhadon Ifanc y DU.


Jac Sollis
- Ysgrifennwr rhyddiaith brwd
- Ennillydd Cadair Eisteddfod Cwm Rhymni 2019 a 2020
- Gallu cadarn i werthfawrogi ffilm
- Angerdd dros ffilmiau cynhwysfawr sy'n llwyddo i gyfleu negeseuon pwysig a chyfoes
- Gallu i feirniadu ffilm; myfyriwr Lefel-A Cymraeg