Manylion MewnUndod

Mae MewnUndod yn ŵyl ffilm sydd yn hyrwyddo gwirfoddoli yng Nghymru ac yn cael ei arwain gan bobl ifanc. Thema'r ŵyl ydy 'Gwneud mwy o wahaniaeth gyda'n gilydd'. Mae ProMo-Cymru yn cefnogi'r prosiect mewn partneriaeth â CGGC ac yr ymgyrch #byddaf yng Nghymru. Ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Yr Hyn Rydym Yn Chwilio Amdano

Mae MewnUndod yn awyddus i ddangos y gwaith mwyaf mentrus ac arloesol gan bobl ifanc (11-25) sydd yn herio ffiniau gwneud ffilmiau. 

Mae pob cyflwyniad yn cael ei adolygu a'i ddewis yn ôl y meini prawf canlynol: 

Hwyl a Chreadigol 

Ysbrydoli eraill 

Grymusol  

Cael Effaith ar y Gymuned 

Mae'r Ŵyl yn derbyn ffilmiau byr 1 i 9 munud sydd wedi'u creu yn y ddwy flynedd diwethaf. 
Mae yna ddau gategori:

Grŵp Bach

Wedi'i greu gan grŵp rhwng 1 a 4 person

Enillydd yn cael ei ddewis gan y cyhoedd

Gwobr: £75

Grŵp Mawr

Wedi'i greu gan grŵp o 5 neu fwy

Enillydd yn cael ei ddewis gan banel o feirniaid

Gwobr: £125

Croesawir prosiectau mewn unrhyw iaith ond gofynnir i chi ddarparu is-deitlau os ydych chi'n cyflwyno mewn iaith sydd ddim yn Gymraeg neu Saesneg.  

Gwobrau MewnUndod 2020

20 Mawrth 2020 am 12pm

Cyfarfod ein tîm dylunio

Mae'r Ŵyl Ffilm MewnUndod yn cael ei greu gan grŵp o wirfoddolwyr ifanc.

Bedwyr Elias Evans

Mae Bedwyr yn siaradwr Cymraeg sydd yn astudio Cynhyrchu Cyfryngau yng Nghaerdydd. O Orllewin Cymru yn wreiddiol, mae wedi bod yn llysgennad i'r Urdd ers 2 flynedd ac wedi helpu gyda digwyddiadau fel carnifal yn ei bentref lleol.

Ewa Ladkowska

Mae Ewa yn actores, ysgrifennydd ac yn rhedwr set a chynhyrchiad. Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, cafodd ei magu mewn sawl gwlad ac mae'n uniaethu fel 'plentyn trydydd diwylliant' (TCK). Mae wedi gwirfoddoli mewn sawl gŵyl ffilm ac yn awyddus i gymryd rhan mewn un arall.

Fizza Khan

Mae Fizza yn fyfyriwr newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn enedigol o Gaerdydd, mae'n frwdfrydig am waith cymdeithasol ac ar leoliad yn ProMo-Cymru yn bresennol. Dyma'r tro cyntaf iddi weithio ar ŵyl ffilm.

Halyna Soltys

Mae Hallie yn fyfyriwr israddedig BSc Seicoleg. Mae'n hoff iawn o deithio, yn actifydd ac yn angerddol am gyfryngau digidol. Ymysg ei gwaith gwirfoddol mae'r GirlGuides a ProMo-Cymru.

Marwa Mussadiq Khan

Mae Marwa yn fyfyriwr rhyngwladol yn astudio cyfryngau ac ysgrifennu creadigol. Yn wreiddiol o Bacistan, mae'n gwirfoddoli yn ProMo-Cymru. Dyma'r tro cyntaf iddi weithio ar ŵyl ffilm.

Shahroze Khan

Mae Shahroze yn actor, model a chantor amryddawn medrus. Mae'n astudio VFX a graffeg gyfrifiadurol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'n bersonoliaeth egniol, empathig, artistig sydd wrth ei fodd yn gweithio gyda gwahanol brosiectau a gweithgareddau cyfryngol.

Caitlin Ruby Jones

Mae Caitlin yn siaradwr Cymraeg o Gaerdydd, sydd yn astudio i fod yn weithiwr ieuenctid. Yn ei amser rhydd mae'n blogio ac yn postio ar YouTube ac yn gobeithio datblygu ei sgiliau ar brofiad gwaith gyda ProMo-Cymru.

Cyflwyno eich ffilm

Gwobrau

Cyhoeddir yr enillwyr yn Gofod3 ar ddydd Iau, 19 Mawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd
£75

£75

Grŵp Bach
£125

£125

Grŵp Mawr

Yn anffodus, nid yw MewnUndod bellach yn derbyn cyflwyniadau.

Diolch am eich diddordeb.

------------

Angen cymorth?

Dewch draw i'r swyddfa

17 Stryd Bute y Gorllewin
Bae Caerdydd
Caerdydd
Cymru
CF10 5EP

Ffoniwch

Dayana Del Puerto
029 2046 2222
Llun i Gwen, 9:30-17:00

cy